Doopee Doo LTD ("Doopee Doo!")
Polisi Preifatrwydd

Doopee Doo! (rydym) wedi ymrwymo i warchod a pharchu eich preifatrwydd.

1. Cwmpas y Polisi

Mae’r polisi (a’r telerau ychwanegol sydd wedi’u hymgorffori gan gyfeirio at ein polisi neu ein telerau ac amodau, ynghyd â’n Telerau Defnyddio) yn berthnasol i’ch defnydd o’r canlynol:

Mae’r polisi hwn yn nodi ar ba sail y byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol rydym yn ei gasglu gennych chi, neu ddata rydych chi’n ei ddarparu i ni. Darllenwch y canlynol yn ofalus i ddeall ein barn a’n harferion o ran eich data personol a sut byddwn ni’n ei drin. At ddibenion Deddf Diogelu Data 2018, y rheolydd data yw Doopee Doo LTD yn Nhŷ Britania, Parc Busnes Caerffili, Van Road, Caerffili, CF83 3GG.

2. Gwybodaeth y gallwn gasglu gennych chi

Cawn gasglu a phrosesu’r data canlynol amdanoch chi:

3. Cwcis

Er mwyn gwella’r Gwefannau, mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio ffeiliau bach sy’n cael eu galw’n “gwcis”. Mae cwci yn swm bychan o ddata, sy'n aml yn cynnwys dynodwr unigryw sy'n cael ei anfon i borwr gwe eich cyfrifiadur neu eich ffôn symudol (cyfeirir atynt yn y polisi hwn fel “dyfais”) gan y Gwefannau ac yn cael ei storio ar yriant caled eich dyfais. Mae’r cwci yn creu cofnod ar eich dyfais o wybodaeth yn ymwneud â’ch gweithgarwch ar y rhyngrwyd (fel, a ydych chi wedi ymweld â’n gwefan o’r blaen). Ni fydd y cwcis rydym yn eu defnyddio ar y Gwefannau yn casglu gwybodaeth bersonol a fydd yn caniatáu eich adnabod ac ni fyddwn yn datgelu’r wybodaeth sy’n cael ei storio yn y cwcis rydym yn eu rhoi ar eich dyfais i drydydd partïon.

4. Y defnydd a wneir o’r wybodaeth

Rydym yn defnyddio gwybodaeth sydd gennym amdanoch yn y ffyrdd canlynol:

5. Datgelu Gwybodaeth

Mae’n bosibl y byddwn yn datgelu rhywfaint neu’r cyfan o’r data a gasglwn gennych wrth i chi ddefnyddio’r Wefan i’r trydydd partïon canlynol:

Categori’r data
Gwybodaeth a Gyflwynwyd, Gwybodaeth Log, manylion cyswllt a Lleoliad

Derbynnydd
Ein lleoliadau busnes partner. Mae’r Safle a’r Gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu drwy’r Wefan yn dibynnu ar allu datgelu rhai elfennau o’r data hwn i’n lleoliadau busnes partner er mwyn iddynt allu rhyngweithio â chi a darparu gwasanaethau a chynigion sy’n ymwneud ag Ap i chi.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost (oni bai eich bod wedi gofyn i ni neu iddyn nhw beidio â gwneud hynny) ynghylch hyrwyddiadau a chynigion arbennig a allai fod o ddiddordeb i chi. Os byddai’n well gennych i ni beidio â chysylltu â chi’n uniongyrchol gydag unrhyw ohebiaeth marchnata, gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Gweler ‘Eich hawliau’, isod.

Mae'n bosib y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw aelod o'n grŵp ni. Mae hyn yn golygu ein his-gwmnïau, ein prif gwmni a'i is-gwmnïau, yn ôl y diffiniad o'r rhain yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Mae'n bosib y byddwn yn datgelu eich data i drydydd partïon:

6. Ble rydym yn storio eich Data Personol

Mae’n bosibl y caiff y data rydym yn ei gasglu gennych ei drosglwyddo i gyrchfan y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop (AEE) ac y caiff ei storio yno. Mae’n bosibl hefyd y bydd staff sy'n gweithio i ni neu i un o'n cyflenwyr y tu allan i AEE yn prosesu eich data. Wrth gyflwyno eich data personol, rydych yn cytuno iddo gael ei drosglwyddo, ei gadw a’i brosesu. Byddwn yn cymryd pob cam sy’n rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod eich data’n cael eu trin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Caiff yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu i ni ei storio ar ein gweinyddion diogel. Lle rydym wedi rhoi cyfrinair i chi (neu eich bod chi wedi dewis cyfrinair) sy’n eich galluogi i gael mynediad at rannau penodol o’n Gwefan, chi sy’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu cyfrinair gyda neb.

Yn anffodus, nid yw cyfnewid gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gyfan gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn sicrhau diogelwch y data sy’n cael ei drosglwyddo i’n Gwefan; mae unrhyw drosglwyddiad ar eich cyfrifoldeb eich hun.

7. Eich hawliau chi

Efallai eich bod yn ymwybodol bod Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data neu “GDPR” yn berthnasol pan fyddwn yn prosesu eich data. Mae GDPR y DU yn rhoi hawliau penodol i unigolion mewn perthynas â’u data personol. Pan fyddant ar gael ac ar wahân i’r hyn a gyfyngir dan gyfraith berthnasol, mae’r hawliau a roddir i unigolion fel a ganlyn:


Drwy ddefnyddio’r Wefan rydych yn rhoi caniatâd i ni (a, lle bo’n berthnasol, rhai o’n partneriaid busnes) ddefnyddio eich data personol at y dibenion marchnata a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Mae gennych hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol at ddibenion marchnata (ac eithrio marchnata gan ein lleoliadau partner drwy’r Wefan sy’n rhan annatod o’r Safle a’r Gwasanaeth).

Gallwch arfer pob hawl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni yn info@doopeedoo.co.uk.

8. Gwefannau trydydd parti

Efallai y bydd ein Gwefan, o bryd i’w gilydd, yn cynnwys dolenni i wefannau ein rhwydweithiau partner, hysbysebwyr a chwmnïau cysylltiedig (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, wefannau y caiff y Wefan neu’r Gwasanaethau eu hysbysebu arnynt). Os ydych chi’n dilyn dolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, nodwch fod gan y gwefannau hyn ac unrhyw wasanaethau a allai fod ar gael drwyddyn nhw eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn nac am unrhyw ddata personol a allai gael ei gasglu drwy’r gwefannau neu’r gwasanaethau hyn, fel data cyswllt a lleoliad. Gwiriwch y polisïau hyn cyn cyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn neu cyn defnyddio’r gwasanaethau hyn.

9. Cysylltu

Rydym yn croesawu unrhyw gwestiynau, sylwadau a cheisiadau am y polisi preifatrwydd hwn. Dylech eu hanfon at info@doopeedoo.co.uk.